Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau i Elen a Tomos, Lleuwen a Swyn Haf, enillwyr y gystadleuaeth jôcs ? Dathlwch gyda llond bol o chwerthin!
1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
3. I gystadlu mae rhaid ebostio fideo ohonoch chi yn dweud jôc Gymraeg, mae modd hefyd i chi ysgrifennu’r jôc mewn e-bost a’i anfon at cyw@s4c.cymru erbyn y dyddiad cau.
4. Dewisir tri enillydd o blith y cystadleuwyr sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a’r amser cau.
5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
6. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar yr Awr Fawr ar y 23ain o Ebrill, 2021. Bydd y gwobrau’n cael eu hanfon at yr enillwyr cyn gynted â phosib.
7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 16eg o Ebrill, 2021.
8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
9. Y wobr fydd pecyn Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
10. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
11. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
12. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
13. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
14. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Llinos T Davies neu Branwen Gwyn yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
15. Os oes plentyn mewn fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y fideo ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y fideo yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
16. Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.