Mae Cyw Byw yn ôl, bob dydd Llun am 4 o’r gloch!
Os wyt ti eisiau ennill gwobrau mawr, cofrestra i chwarae Bingo Beicio nawr drwy ffonio 08000727877.
Rhaid bod o dan 16 oed a chofia ofyn am ganiatâd cyn ffonio. Mae’r alwad am ddim o ffôn y tŷ ond gall gostio o ffôn symudol.
Termau ac Amodau llawn
1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
2. Am y cyfle i gystadlu mae rhaid unai ffonio a chofrestru yn ystod yr wythnos sy’n arwain i fyny at y dyddiad darlledu’r rhaglen neu ffonio ar y diwrnod y darlledir y rhaglen. Mae angen ateb y cwestiwn sy’n cael ei osod yn wythnosol yn gywir. Os fydd y cystadleuydd yn derbyn ymateb peiriant ateb, gofynir i chi adael eich enw a’ch rhif ffôn a bydd aelod o’r tîm cynhyrchu yn cysylltu yn ôl gyda’r cystadleuydd ac yn gofyn iddyn nhw ateb y cwestiwn wythnosol cyn rhoi ei enw yn y twba.
3. Mae’r alwad ffôn am ddim o ffôn y tŷ ond gall gostio o ffôn symudol yn ddibynnol ar y darparwr.
4. Rhaid i ymgeisydd fod o dan 16 oed i gystadlu.
5. Rhaid i ymgeisydd ofyn caniatâd rhiant neu warchodwr cyn ffonio.
6. Dewisir cystadleuwyr ar hap.
7. Bydd gwobrau i’w hennill ar bob rhaglen
8. Os na fydd y Cwmni yn derbyn ymateb gan gystadleuydd, cedwir yr hawl i ddewis cystadleuydd arall.
9. Mae pob cystadleuydd sy’n cystadlu yn fyw ar y rhaglen yn ennill gwobr.
10. Mae’r llinellau yn cau am 16.45 ar ddiwrnod darllediad y rhaglen ar gyfer cymryd rhan yn y rhaglen honno.
11. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
12. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
13. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
14. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu cyrraedd.
15. Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i’r rheolau hyn.
16. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r defnydd o’ch data personol cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd y Cwmni https://www.boomcymru.co.uk/polisiau-preifatrwydd-boom-cymru/ a pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/
17. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
18. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gystadleuaeth yna cysylltwch â Llinos T Davies yn Boom Cymru ar 02922 450 000
19. Mae cystadleuaeth ffôn Cyw Byw yn cael ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.