Mae Helo Shwmae yn ôl ar Fehefin 4 gyda pennod arbennig i ddathlu Eisteddfod T!
Hefyd, pob wythnos, mi fydd ‘na Her Yr Wythnos i CHI gwblhau – anfonwch eich cynnigion i cyw@s4c.cymru neu drwy ddefnyddio’r ffurflen gysylltu ar waelod y dudalen, ac efallai fyddwch chi ar Helo Shwmae!
Cofiwch ddod yn ôl pob wythnos i weld beth fydd yr her! Pob lwc!
I chwarae Gwir neu Gwirion efo Huw ac Elin, ac ymuno yn hwyl Helo Shwmae ar ddyddiau Gwener, beth am argraffu un arwydd Gwir ac un arwydd Gwirion i’r dosbarth ac fe gewch chi benderfynu os ydi’r ffeithiau yn wir neu yn wirion drwy chwifio’r arwydd cywir! Mwynhewch a phob lwc!
;