Mae gennym newyddion cyffrous i chi! Dyma gyflwyno cylchgrawn newydd sbon Cyw! Cyw a’i ffrindiau o wasanaeth plant lleiaf S4C yw sêr y cylchgrawn lliwgar hwn, ac mae’r 48 tudalen yn llawn dop o weithgareddau hwyliog (sydd hefyd yn addysgiadol) ar gyfer plant ifanc hyd at chwech oed.
Bydd cyfle i ddysgu am lythrennau a rhifau wrth chwarae, chwerthin a dysgu. Bydd storïau, syniadau am weithgareddau creadigol, cyfle i goginio (gyda help oedolyn wrth gwrs!), a llond lle o sticeri.
Law yn llaw â’r cylchgrawn, mae gwefan arbennig fydd yn cynnig cyfieithiad o’r holl gylchgrawn – yn rhoi cyfle i’r di-Gymraeg glywed y storïau yn cael eu darllen yn y Gymraeg.
O Fedi ymlaen bydd yn ymddangos yn dymhorol. £3.99 yw pris y cylchgrawn, ond gellir tanysgrifio i dderbyn rhifyn bob tymor am flwyddyn am £15 (post am ddim) – yn syth i’ch cartref.
Bydd modd rhag-archebu/prynu copi drwy glicio yma, neu o’ch siop llyfrau Cymraeg lleol. Bydd modd trefnu tanysgrifiad ar y we hefyd.