Ar ddydd Gwener cynta pob mis, mi fydd un o wylwyr Cyw yn adolygu llyfr ar gyfer Clwb Darllen Cyw.  Os hoffai eich plentyn adolygu llyfr Clwb Darllen Cyw, e bostiwch ni ar cyw@s4c.cymru!

Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.