Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr!
Elinor Hâf
Cymeriad – Llinos Fferins
Leusa Llwyd
Cymeriad – Da Da’s
Celyn Rhys
Cymeriad – Lili Wyddfa
RHEOLAU CYSTADLEUAETH DEIAN A LOLI
1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan Cwmni Da (y Cwmni) a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth ac eu teuluoedd agos.
2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 12 oed i gystadlu.
3. I gystadlu, rhaid anfon llun o’r cymeriad newydd, a brawddeg neu ddwy i gyd-fynd. Rhaid gwarantu bod y cymeriad yn hollol wreiddiol, a’i anfon i gyfeiriad e-bost Deian a Loli (deianaloli@cwmnida.tv)
4. Bydd y plentyn/plant sy’n dod i’r brig yn cael gweld ei/eu g/cymeriad yn ymddangos mewn un neu fwy o benodau o Deian a Loli ar S4C.
5. Bydd tîm cynhyrchu y Cwmni yn penderfynu ar yr enillydd ar sail potensial y cymeriad i’w ddefnyddio o fewn un neu fwy o’r straeon yn y gyfres a’r potensial i’w ddatblygu ymhellach.
6. Mae penderfyniad y Cwmni yn derfynol.
7. Bydd gan y Cwmni bob hawl perthnasol i ddefnyddio’r Cymeriad mewn unrhyw fodd y dymuna y Cwmni yn eu disgresiwn llwyr ym mhob cyfrwng, drwy gydol y byd am byth yn ddi-dâl.
8. Bydd gan y Cwmni yr hawl i newid y Cymeriad mewn unrhyw fodd.
9. Cyhoeddir yr enillwyr ar Awr Fawr Cyw, ar yr 11eg o Raghfyr, 2020.
10. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 11:59am dydd Gwener 23/10/2020.
11. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.
12. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
13. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd cyn y dyddiad cau.
14. Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i’r rheolau hyn. Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r defnydd o’ch data personol cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd y Cwmni [https://www.cwmnida.cymru/polisi-preifatrwydd/] a pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd/
15. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
16. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cystadleuaeth yna cysylltwch â Fiona Lloyd yn Cwmni Da: fiona.lloyd@cwmnida.tv
Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol