Beth yw dy hoff lyfr Cymraeg di?
Llongyfarchiadau mawr iawn i’n holl enillwyr, a diolch i bawb wnaeth anfon lluniau gyda’u hoff lyfrau Cymraeg i’r gystadleuaeth!

Dyma nhw, Gwen, Buddug a Bedwyr , Meredudd Rhys , Nansi, Moi Dafydd, Elis Howel, Loti, Alffi, Dei, Huw a Nanw a Hari Gwilym, da iawn chi!
RHEOLAU
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
- I gystadlu mae rhaid ebostio llun ohonoch chi yn dal eich hoff lyfr Cymraeg, beth am wisgo fel eich hoff gymeriad hefyd gan ddefnyddio pethau sydd i’w cael o gwmpas y tŷ i greu’r wisg? Anfonwch lun i cyw@s4c.cymru erbyn y dyddiad cau.
- Dewisir deg enillydd o blith y cystadleuwyr fydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a’r amser cau.
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar yr Awr Fawr ar y 19eg o Fawrth, 2021. Bydd y gwobrau’n cael eu hanfon at yr enillwyr cyn gynted â phosib.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 12fed o Fawrth, 2021.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Y wobr fydd pecyn o lyfrau Cymraeg. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Llinos T Davies neu Branwen Gwyn yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
- Os oes plentyn mewn llun / fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
- Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.