Llongyfarchiadau i’n enillwyr!

Ollie a Tilly (Beicio)

Llew (Diolch)

Ruby a George  (Teimladau)

 

 

 

Rheolau:

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
  2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
  3. I gystadlu mae rhaid ebostio fideo byr ohonoch yn canu eich hoff gân Cyw neu yn dawnsio i’ch hoff gân Cyw neu anfon fideo drwy’r wefan (s4c.cymru/cyw) i cyw@s4c.cymruerbyn y dyddiad cau.
  4. Dewisir tri enillydd sydd wedi cysylltu i gystadlu erbyn y dyddiad a’r amser cau.
  5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
  6. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar wefan Cyw ac Awr Fawr ar y 29ain o Ionawr, 2021. Bydd y gwobrau’n cael eu hanfon at yr enillwyr cyn gynnted â phosib.
  7. Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 20fed o Chwefror.
  8. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
  9. Y wobr fydd pecyn a CD Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
  10. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
  11. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
  12. Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
  13. Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
  14. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Wyn Morris yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
  15. Os oes plentyn mewn llun / fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y lluniau ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth
  16.  Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.