Wyt ti’n hoffi mynd i’r traeth? Mae Cyw eisiau gweld dy lun di! Beth am anfon llun ohonat ti ar y traeth neu beth am greu llun o dy hoff draeth neu o Cyw a’i ffrindiau ar y traeth? Anfona dy lun at cyw@s4c.cymru erbyn Mehefin y 21ain a ‘falle fyddi di yn ennill pecyn Cyw!
Rheolau’r gystadleuaeth
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy’n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth.
- Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.
- I gystadlu mae rhaid ebostio llun o’ch hoff draeth neu greu darlun o’ch hoff draeth neu greu celf ar y traeth i cyw@s4c.cymruerbyn y dyddiad cau.
- Dewisir tri enillydd o blith y cystadleuwyr sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a’r amser cau.
- Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a’r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar Helo Shwmae ac Awr Fawr ar y 25ain o Fehefin, 2021. Bydd y gwobrau’n cael eu hanfon at yr enillwyr cyn gynted â phosib.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner dydd, y 21eg o Fehefin, 2021.
- Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
- Y wobr fydd pecyn Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.
- Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy’n methu â chyrraedd.
- Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i’r rheolau hyn.
- Dim ond at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth y bydd Boom Cymru ac S4C yn defnyddio’r data personol a ddarperir. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru y gallwch eu gweld drwy ymweld â’r wefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd. Gellir dod o hyd i Bolisi Preifatrwydd S4C yn www.s4c.cymru/privacypolicy.shtml
- Mae’r telerau a’r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
- Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Betsan Wyn Morris neu Branwen Gwyn yn Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.
- Os oes plentyn mewn fideo, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatâd i ddangos y fideo ar ddarllediad teledu a gwefan Cyw. Os na fyddwn yn gallu sicrhau’r caniatâd yma, ni fydd y fideo yn cael ei ddangos nac yn ddilys i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
- Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy’n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.